University Secretary

To promote a flexible workforce, the University will consider applications from individuals seeking full time, or job share, working arrangements.

Aberystwyth University is seeking to appoint a University Secretary who will operating at the highest level within the University. The University Secretary is primarily responsible for providing authoritative guidance to the University Council, Senate and their committees in matters involving compliance with and the operation of governance powers, policies and procedures; the efficient conduct of governance business and continuous improvement of governance practice. The University Secretary will also have accountability and oversight of health and safety, business continuity planning, and the management of other compliance matters relating to information governance, and also relationships with the University’s legal advisers. 

The University Secretary shall be mindful of the various reporting lines as part of the post. The role holder shall be responsible solely to the Council, reporting directly to the Chair of Council, in relation to governing body business. Equally, the successful candidate shall report to the Vice-Chancellor in relation to Senate business; and to the Chairs of any sub-committees which the University Secretary services. The post holder shall be line managed by the Vice Chancellor, who shall ensure that the University Secretary can discharge his / her duties with the required independence. 

The successful candidate will also need to be able to demonstrate previous experience of managing and leading a team and the ability to be able to work collaboratively to deadlines. They are expected to have the gravitas required to give full confidence to the University Council and senior colleagues in the University.

The successful candidate will be required to have excellent written and spoken Welsh and English (C2).  

Under the UK Government’s points-based system scheme, this role meets the criteria to be sponsored by Aberystwyth University (AU) for a Skilled Worker Route (SWR) application. Please see below for more information on the sponsorship process.

We welcome applicants from all backgrounds and communities and in particular, those that are currently under-represented in our workforce. This includes but is not limited to Black, Asian and Minority Ethnic (BAME) candidates and candidates with disabilities. We specifically encourage female candidates to apply for this post as they are currently under-represented at this level in our organisation.

We are a Bilingual Institution which complies with the Welsh Language Standards and is committed to Equal Opportunities.  You are welcome to apply for any vacancy in Welsh or English and any application submitted will be treated equally.

Appointments are normally made within 4 - 8 weeks of the closing date. 

Closing date: Sunday 3rd October 2021

 

Ysgrifennydd y Brifysgol
Llywodraethu

36.5 awr yr wythnos 
Gradd 9R: £61,818 - £63,668 y flwyddyn

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd sydd â threfniadau gweithio amser llawn neu rannu swydd.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn awyddus i benodi Ysgrifennydd y Brifysgol a fydd yn gweithredu ar y lefel uchaf yn y Brifysgol. Ysgrifennydd y Brifysgol sy'n bennaf cyfrifol am roi arweiniad awdurdodol i Gyngor a Senedd y Brifysgol a'u pwyllgorau ar faterion yn ymwneud â'r modd y mae pwerau, polisïau a gweithdrefnau llywodraethu yn gweithio a chydymffurfiaeth â hwy; cynnal busnes llywodraethu mewn modd effeithlon, a gwelliant parhaus yr arferion llywodraethu.  Bydd Ysgrifennydd y Brifysgol hefyd yn goruchwylio ac yn atebol am faterion iechyd a diogelwch, cynllunio parhad busnes, a rheoli materion cydymffurfio eraill sy'n ymwneud â llywodraethu gwybodaeth, yn ogystal â'r berthynas â chynghorwyr cyfreithiol y Brifysgol.  

Bydd angen i Ysgrifennydd y Brifysgol gadw'r amrywiol linellau adrodd mewn cof yn rhan o'r swydd. Bydd deiliad y swydd yn atebol i'r Cyngor yn unig, gan adrodd yn uniongyrchol i Gadeirydd y Cyngor, mewn perthynas â busnes y corff llywodraethu. Yn yr un modd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adrodd i'r Is-Ganghellor ynghylch busnes y Senedd; ac i Gadeiryddion unrhyw is-bwyllgorau y mae Ysgrifennydd y Brifysgol yn eu gwasanaethu. 

Yr Is-Ganghellor fydd rheolwr llinell deiliad y swydd, a bydd yr Is-Ganghellor yn sicrhau y gall Ysgrifennydd y Brifysgol gyflawni ei (d)dyletswyddau yn y modd annibynnol angenrheidiol. 

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd allu dangos profiad blaenorol o reoli ac arwain tîm, a'r gallu i weithio ar y cyd er mwyn cyrraedd terfynau amser. Bydd disgwyl iddynt fod â'r statws angenrheidiol i roi hyder llwyr i Gyngor y Brifysgol a chyd-weithwyr uwch yn y Brifysgol. 

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fedru'r Gymraeg a'r Saesneg i safon ardderchog, yn ysgrifenedig ac ar lafar (C2).  

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth San Steffan, mae'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus. I gael mwy o wybodaeth am y broses nawdd gweler isod.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn enwedig felly'r rhai sydd ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, ymgeiswyr duon, Asiaidd neu o gefndir ethnig lleiafrifol (BAME), ac ymgeiswyr ag anableddau.. Rydym yn annog ymgeiswyr benywaidd yn benodol i ymgeisio am y swydd hon gan nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol ar y lefel hon yn ein sefydliad ar hyn o bryd.

Rydym yn Sefydliad Dwyieithog sy'n cydymffurfio â Safonau'r Iaith Gymraeg ac sy'n ymroddedig i Gyfle Cyfartal.  Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Fel arfer fe benodir i swyddi ymhen 4 - 8 wythnos ar ôl y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: Dydd sul 3 Hydref 2021


Similar searches: Full time, Company secretary, Head of Governance